Showing posts with label Lefel A. Show all posts
Showing posts with label Lefel A. Show all posts

26/11/2014

Taith i'r theatr

Aeth disgyblion Bl 12 a 13 i'r theatr i wylio'r ddrama SXTO gan gwmni Theatr Arad Goch.

Year 12 and 13 Welsh students went to the theatre to watch the play SXTO by Arad Goch Theatre Company.


Adroddiad gan Lydia Gibbs, Bl 13::

"Es i i weld y ddrama SXTO gyda'r ysgol. Roedd y ddrama am sut mae secstio yn beryglus i bobl ifanc. Roedd pedwar cymeriad yn y ddrama. Y cymeriadau ydy Lowri, ei chariad Meic, ei ffrind Jen a Gav ffrind Meic. Fy hoff gymeriad ydy Gav achos mae e’n ddoniol iawn.

Er roedd y ddrama yn syml, roedd hi’n anodd i wybod gyda pwy oedd y cyfrifoldeb am y llun ‘viral’ o Lowri. Lowri tynodd y llun a’i anfon at ei chariad, ond roedd Meic wedi rhoi pwysau mawr ar Lowri i dynnu’r llun. Ond  hefyd, gwerthodd Meic ei ffôn i Gav ac roedd y llun ar y cof. Gwelodd Jen y llun ar ffôn Gav a’i anfon at ffrindiau. Felly, er roedd bai ar llawer o'r cymeriadau, yn fy marn i cyfrifoldeb Lowri oedd tynnu’r llun felly hi oedd ar fai fwyaf."

Adroddiad gan Rebecca Walsh, Bl 12:

"Dydd Iau diwethaf, aethon ni i weld y ddrama ‘SXTO’ yn Ysgol Gyfun Garth Olwg. Roedd y ddrama i ddangos peryglon defnyddio ffonau symudol, a rhybuddio pobl ifanc bod ffonau symudol yn gallu achosi problemau. Yn fy marn i, mwynheuais i’r ddrama achos roedd e’n ddiddorol iawn.

Y prif cymeriadau oedd Lowri, Meic, Jen a Gav. Roedd y stori yn dilyn bywyd Lowri. Roedd hi wedi bod yn secstio Meic, ond gwerthodd e ei ffôn i Gav, felly yn fuan wedyn, gwelodd pawb y lluniau. Ar ddiwedd y ddrama, roedd Lowri ar do’r ysgol. Roedd hi eisiau neidio, a ceisiodd Meic, Jen a Gav ei stopio hi."



12/11/2014

Ymweld a'r Ysgwrn

Aeth disgyblion Blwyddyn 12 i'r Ysgwrn heddiw i weld cartref Hedd Wyn a chlywed ei hanes gan aelod o'r teulu, Gerald.

Year 12 pupils visited 'Yr Ysgwrn' today to see the poet Hedd Wyn's home and to hear about Hedd Wyn's life first hand from a member of his family, Gerald.


Jamie Ferguson:
"Es i heddiw i gartref Hedd Wyn, 'Yr Ysgwrn'. Mwynheuais i weld y Gadair Ddu - cadair yr Eisteddfod enillodd Hedd Wyn ar ol marw yn y rhyfel. Hefyd hoffais i weld y gegin fach a'r parlwr lle roedd teulu Hedd Wyn wedi cadw'r cadeiriau Eisteddfodol. Mae 'Yr Ysgwrn' yn le hyfryd ac arbennig iawn."



Marnie Adams:
"I enjoyed seeing all the chairs Hedd Wyn won for poetry competitions at different Eisteddfods. We learnt about the different symbols carved into the chairs and what they represented. I also thought finding out new information about the family, farm and house from Hedd Wyn's nephew, Gerald, was an unforgettable experience."


Matthew Davies:
"Seeing the chairs Ellis (his bardic name was Hedd Wyn) won was an amazing experience. But also I enjoyed learning about the view of someone related to Ellis, especially regarding the film. Ellis' nephew and the family disagreed with the 'Hollywood' portrayal of Ellis' social life and love life as they believe him to have been a normal family man."

17/06/2014

Beatbocsio'n Gymraeg

Daeth Ed Holden, aka Mr Phormula, i'r ysgol heddiw i rhedeg gweithdy beatbocsio gyda disgyblion Blwyddyn 10 a 12.

Ed Holden, aka Mr Phormula, came to the school today to run a beatboxing workshop with Year 10 and 12 pupils.





02/05/2014

Rafftio Dwr Gwyn - White Water Rafting

Tonight, Year 10 and 11 pupils who are considering studying Welsh at AS Level went to 'Cardiff International White Water' in Cardiff Bay to experience the thrill of white water rafting through the medium of Welsh.

Heno, aeth disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy'n ystyried astudio Cymraeg i Lefel AS i 'Dwr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd' ym Mae Caerdydd i brofi gwefr rafftio dwr gwyn trwy gyfrwng y Gymraeg.


The trip was organised by the Welsh department with the support of the 'Cymraeg Bob Dydd' (Welsh Every Day) project. The school is one of 11 schools in Wales to be selected by the Welsh Government to take part in ‘Cymraeg Bob Dydd’. Cowbridge School was chosen by the Welsh Government because the Welsh department is seen as a strong and innovative department with excellent GCSE results. Urdd Gobaith Cymru run this project on behalf of the Welsh Government.

The aims of the project are twofold - to increase the uptake of Welsh at AS and A Level and to give students the opportunity to use Welsh outside the classroom to develop their conversational Welsh skills. ‘Cymraeg Bob Dydd’ covered the cost of the white water rafting.

Paige Pendle said: "It was great. We used a lot more Welsh than we would usually use on a Friday night and it really developed my confidence in speaking Welsh in a few hours. This kind of experience also opens your eyes to how you could use Welsh outside school and in the future."

Hannah Williams added: "You don't feel you're learning Welsh even though you are and you're hearing Welsh constantly. For example, all the instructions in the raft were through the medium of Welsh - 'Ymlaen' (forward), 'Yn ol' (backwards), 'pwyso mewn' (lean in), 'i lawr' (down), and 'chwith a dde' (left and right)."

Jamie Ferguson felt that the teamwork involved was one of his favourite parts of the activity and that using Welsh outside school helps to build his confidence to use Welsh more often. 

"We had so much fun. We laughed non stop and it's easy to learn when you're having fun," said Rhiannon. "And also, if we didn't stay 'on the ball' and pick up the vocabulary quickly we would let the team down or worst still, end up in the water! All lessons should be like that - if you get something wrong you get drenched!" 





14/02/2014

DJ Huw Stephens

Aeth disgyblion blwyddyn 12 i Ganolfan y Mileniwm i wrando ar Huw Stephens, DJ ar Radio 1 a Radio Cymru, yn siarad am ei waith ac am sut mae'r iaith Gymraeg wedi ei helpu e yn ei yrfa.

Diolch yn fawr i gynllun 'Cymraeg bob dydd' yr Urdd am drefnu'r digwyddiad.

26/09/2013

Diwrnod Ieithoedd Ewrop / European Languages Day 2013

 
 Shwmae! Bonjour! Guten Tag! Hola!
To celebrate European Day of Languages pupils enjoyed trying European foods and asking for them in European Languages! Pupils and staff have been taking part in quizzes and activities in regestration and language lessons and have also 'shown us their tongues' for our video. Watch this space for more information!

23/09/2013

Arweinydd Dwyieithrwydd/Leader of Bilingualism - Bethan Sloan

Dyma Bethan Sloan! Mae Bethan yn Arweinydd Dwyieithrwydd Ysgol Gyfun Y Bontfaen. Swydd Bethan ydy hybu a chefnogi defnydd y Gymraeg o gwmpas yr ysgol. Bydd Bethan o gwpas gyda'i thim yn helpu staff a disgyblion gyda Chymraeg, gadewch i ni ddod i'w nabod hi'n well...

This is Bethan Sloan! Bethan is Cowbridge Comprehensive School's Leader of Bilingualism. Bethan's job is to promote and support the use of Welsh around the school. Bethan will be around with her team helping staff and pupils with Welsh, lets get to know her a bit better...

"Shwmae! Beth Sloan ydw i, a dw i’n uwch swyddog yr adran Gymraeg. Dw i’n un deg saith oed a dw i’n byw yn Llysworney. Dw i’n wrth fy modd gyda chwaraeon. Yn fy amser rhydd - dw i’n nofio a dw i’n chwarae pêl-rwyd. Dw i’n hoffi mynd i’r sinema a siopa gyda fy ffrindiau hefyd. Fy hoff raglen ar y teledu ydy Gwaith/Cartref. Yn yr ysgol, dw i’n astudio Mathemateg, Cemeg a Bioleg. Dw i’n dysgu Cymraeg achos dw i’n caru’r iaith, ac yn y dyfodol hoffwn i fagu fy mlant i siarad Cymraeg fel iaith gyntaf."

27/08/2013

LLONGYFARCHIADAU! CONGRATULATIONS!


Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion TGAU a Lefel A ar eich canlyniadau bendigedig! Da iawn pawb!
Big congratulations to GCSE an A Level pupils on your fantastic results! Well done everyone!

05/06/2013

Study Welsh at Cambridge!


Welsh students can now study Welsh at Cambridge As part of the University's courses in Linguistics and Anglo-Saxon, Norse, and Celtic as degrees.

Some of the research into Welsh which is currently taking place at Cambridge can be seen by clicking here, to find an article on the work of Dr David Willis (Department of Theoretical and Applied Linguistics) on the language's modern evolution.

15/03/2013

Nos Sul - gwyliwch Gwaith/Cartref


Peidiwch ag anghofio i wylio cyfres newydd Gwaith/Cartref nos Sul.

Don't forget to watch the new series of Gwaith/Cartref Sunday night.

31/01/2013

Yr Ymwelydd - Ioan Kidd

Ioan Kidd yn darllen o'i gyfrol
Cawson ni'r fraint o ymweliad gan Ioan Kidd, awdur cyfrol o straeon byrion o'r enw 'O'r Cyrion' heddiw. Mwynheuodd tua 20 o ddisgyblion o ysgolion Y Bont Faen, Stanwell a Howell's wrando ar Ioan Kidd yn siarad am gefndir y straeon a'i brofiad personol e a arweiniodd at ysgrifennu'r stori 'Yr Ymwelydd'. Daeth a'r stori yn fyw i'r disgyblion drwy ddisgrifio, gan ddefnyddio tafodiaith de orllewin Cymru, ei brofiad anghyfforddus o fod yng nghlwb y gweithwyr yng Nghwmafan gyda'i dad pan doedd e ddim yn teimlo fel rhan o'r gymuned ers symud i weithio yn y brifddinas.

Fe wnaeth Ioan Kidd ganmol cwestiynau craff a sylwgar y disgyblion yn ogystal a safon uchel eu Cymraeg.

Diolchodd Mrs Thomas, y Pennaeth, iddo am ei amser gan rannu'r ffaith ei bod hi wedi mwynhau darllen y straeon ei hun ac yn gallu uniaethu gyda'r cymeriadau.

The Welsh department had the pleasure of a visit from Ioan Kidd, the author of a book of short stories entitled 'O'r Cyrion' (From the Fringes). Twenty pupils from Cowbridge, Stanwell and Howell's schools enjoyed listening to Ioan Kidd talking about the background to the stories and his personal experience that led to him writing the story 'Yr Ymwelydd' (The Visitor). He brought the story to life for the pupils by describing, in his south west Wales dialect, the uncomfortable experience of being in the workingmen's club in Cwmavon with his father and workers from the steelworks when he felt that he wasn't a part of the community since moving to work in the capital.

Ioan Kidd praised the pupils' astute and perseptive questioning as well as the high standard of their spoken Welsh.

Mrs Thomas, the Headteacher, thanked him for his time and shared the fact that she has enjoyed reading the stories herself and can identify with the characters.





29/01/2013

Noson Opsiynau Lefel A/A Level Options Evening

Dewch i astudio Lefel A Cymraeg  yn y Bontfaen!
Come and study A Level Welsh in Cowbridge!

Year 11 Options Evening is on Tuesday 29th January. Come and speak to the Department about studying Welsh in Key Stage 5!
 

 
 
 
 
 
 
 

23/01/2013

Ioan Kidd yn ymweld

Ioan Kidd
Bydd yr awdur Ioan Kidd yn ymweld â'r Adran Gymraeg i drafod ei gyfres o straeon byrion 'O'r Cyrion' gydag ein disgyblion Lefel A.

Bydd disgyblion o Ysgol Howell's ac Ysgol Stanwell hefyd yn ymuno â ni ar Ddydd Iau 31 Ionawr er mwyn cael y cyfle i holi Ioan Kidd am ei gefndir, ei waith a'i ysbrydoliaeth. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei gwmni.

The author Ioan Kidd will be visiting the Welsh Department to discuss his series of short stories 'O'r Cyrion', which is on the A Level syllabus, with our pupils.

Pupils from Howell's School and Stanwell School will also be joining us on Thursday 31st January in order to question Ioan Kidd about his background, his work and his inspiration. We very much look forward to his company.

Mwy am Ioan Kidd


Enw: Ioan Kidd

Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mae'r rhestr yn hir iawn!

O ble'r ydych chi'n dod?
Cwmafan, Gorllewin Morgannwg.


Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
O bryd i'w gilydd.

Beth wnaeth ichi sgrifennu 'O'r Cyrion' - dywedwch ychydig amdano?
Fy niddordeb mewn pobl, ac yn enwedig y bobl hynny sy'n mynychu'r cyrion oedd yr ysgogiad pennaf. Mae pobl o'r fath yn aml yn fwy diddorol na'r rheini sy'n byw ynghanol cymdeithas ac maen nhw'n fwy breintiedig o'r herwydd.

Cyfres o luniau a dynnwyd o'r ochrau sydd yma. O'u rhoi nhw ynghyd mewn cyfrol dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cyfrannu at y darlun neu'r albwm cenedlaethol, beth bynnag yw hwnnw, ac yn dweud rhywbeth bach amdano ni.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cawod o Haul (1977);
Craig y Lladron (1994).

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Môr-ladron gan T Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Bydda i'n edrych ar y clawr yn aml.

Pwy yw eich hoff awdur?
Does gen i ddim hoff awdur fel y cyfryw. Wedi dweud hynny, dwi'n tueddu i ffafrio gweithiau cyfoes.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Se questo è un uomo gan Primo Levi (ond bu'n rhaid imi ddarllen y cyfieithiad Saesneg - If this is a Man.)

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwenallt.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Y deilen honn, neus kenniret gwynt.
Gwae hi o'e thynghet!
Hi hen; eleni y ganet.
(Cân yr Henwr, Canu Llywarch Hen).

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilmiau: Cabaret, Diarios de Motocicleta, American Beauty.
Teledu: cyfres This Life.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Does neb yn dod i'r meddwl.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Dim ond gweld ein gilydd y'n ni.

Pa un yw eich hoff air?
Sbrachus - mae'n gwneud imi hiraethu a gwenu yr un pryd.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Arlunio.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Siaradus,
Cydwybodol,
Optimistaidd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dwi'n gallu bod yn rhy gydwybodol ar brydiau.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyn Dwr - oherwydd ei weledigaeth.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Glyn Dwr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
George Thomas (Is-iarll Tonypandy) - "Rhag dy gywilydd!"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Crwydryn ydw i wrth reddf, felly fyddai un daith ddim yn ddigon.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cawl Cymreig ar ei newydd wedd - heb y cig!

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Teithio.

Pa un yw eich hoff liw?
Pam dewis un?

Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Un fyddai'n rhoi statws llawn i'r Gymraeg ym mhob maes; un fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gwbl normal o fewn ffiniau Cymru er mwyn i'w siaradwyr allu rhoi'r gorau i deimlo'n grac neu'n siomedig.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Newydd ei ddechrau.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
"Cerddodd llysgennad newydd Cymru ar hyd y rhes yn neuadd anferth y Cenhedloedd Unedig cyn eistedd yn ei sedd rhwng Cuba a Cyprus."

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...