23/01/2013

Ioan Kidd yn ymweld

Ioan Kidd
Bydd yr awdur Ioan Kidd yn ymweld â'r Adran Gymraeg i drafod ei gyfres o straeon byrion 'O'r Cyrion' gydag ein disgyblion Lefel A.

Bydd disgyblion o Ysgol Howell's ac Ysgol Stanwell hefyd yn ymuno â ni ar Ddydd Iau 31 Ionawr er mwyn cael y cyfle i holi Ioan Kidd am ei gefndir, ei waith a'i ysbrydoliaeth. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei gwmni.

The author Ioan Kidd will be visiting the Welsh Department to discuss his series of short stories 'O'r Cyrion', which is on the A Level syllabus, with our pupils.

Pupils from Howell's School and Stanwell School will also be joining us on Thursday 31st January in order to question Ioan Kidd about his background, his work and his inspiration. We very much look forward to his company.

Mwy am Ioan Kidd


Enw: Ioan Kidd

Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mae'r rhestr yn hir iawn!

O ble'r ydych chi'n dod?
Cwmafan, Gorllewin Morgannwg.


Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
O bryd i'w gilydd.

Beth wnaeth ichi sgrifennu 'O'r Cyrion' - dywedwch ychydig amdano?
Fy niddordeb mewn pobl, ac yn enwedig y bobl hynny sy'n mynychu'r cyrion oedd yr ysgogiad pennaf. Mae pobl o'r fath yn aml yn fwy diddorol na'r rheini sy'n byw ynghanol cymdeithas ac maen nhw'n fwy breintiedig o'r herwydd.

Cyfres o luniau a dynnwyd o'r ochrau sydd yma. O'u rhoi nhw ynghyd mewn cyfrol dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cyfrannu at y darlun neu'r albwm cenedlaethol, beth bynnag yw hwnnw, ac yn dweud rhywbeth bach amdano ni.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cawod o Haul (1977);
Craig y Lladron (1994).

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Môr-ladron gan T Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Bydda i'n edrych ar y clawr yn aml.

Pwy yw eich hoff awdur?
Does gen i ddim hoff awdur fel y cyfryw. Wedi dweud hynny, dwi'n tueddu i ffafrio gweithiau cyfoes.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Se questo è un uomo gan Primo Levi (ond bu'n rhaid imi ddarllen y cyfieithiad Saesneg - If this is a Man.)

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwenallt.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Y deilen honn, neus kenniret gwynt.
Gwae hi o'e thynghet!
Hi hen; eleni y ganet.
(Cân yr Henwr, Canu Llywarch Hen).

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilmiau: Cabaret, Diarios de Motocicleta, American Beauty.
Teledu: cyfres This Life.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Does neb yn dod i'r meddwl.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Dim ond gweld ein gilydd y'n ni.

Pa un yw eich hoff air?
Sbrachus - mae'n gwneud imi hiraethu a gwenu yr un pryd.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Arlunio.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Siaradus,
Cydwybodol,
Optimistaidd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dwi'n gallu bod yn rhy gydwybodol ar brydiau.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyn Dwr - oherwydd ei weledigaeth.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Glyn Dwr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
George Thomas (Is-iarll Tonypandy) - "Rhag dy gywilydd!"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Crwydryn ydw i wrth reddf, felly fyddai un daith ddim yn ddigon.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cawl Cymreig ar ei newydd wedd - heb y cig!

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Teithio.

Pa un yw eich hoff liw?
Pam dewis un?

Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Un fyddai'n rhoi statws llawn i'r Gymraeg ym mhob maes; un fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gwbl normal o fewn ffiniau Cymru er mwyn i'w siaradwyr allu rhoi'r gorau i deimlo'n grac neu'n siomedig.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Newydd ei ddechrau.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
"Cerddodd llysgennad newydd Cymru ar hyd y rhes yn neuadd anferth y Cenhedloedd Unedig cyn eistedd yn ei sedd rhwng Cuba a Cyprus."

No comments:

Post a Comment

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...