26/11/2014

Taith i'r theatr

Aeth disgyblion Bl 12 a 13 i'r theatr i wylio'r ddrama SXTO gan gwmni Theatr Arad Goch.

Year 12 and 13 Welsh students went to the theatre to watch the play SXTO by Arad Goch Theatre Company.


Adroddiad gan Lydia Gibbs, Bl 13::

"Es i i weld y ddrama SXTO gyda'r ysgol. Roedd y ddrama am sut mae secstio yn beryglus i bobl ifanc. Roedd pedwar cymeriad yn y ddrama. Y cymeriadau ydy Lowri, ei chariad Meic, ei ffrind Jen a Gav ffrind Meic. Fy hoff gymeriad ydy Gav achos mae e’n ddoniol iawn.

Er roedd y ddrama yn syml, roedd hi’n anodd i wybod gyda pwy oedd y cyfrifoldeb am y llun ‘viral’ o Lowri. Lowri tynodd y llun a’i anfon at ei chariad, ond roedd Meic wedi rhoi pwysau mawr ar Lowri i dynnu’r llun. Ond  hefyd, gwerthodd Meic ei ffôn i Gav ac roedd y llun ar y cof. Gwelodd Jen y llun ar ffôn Gav a’i anfon at ffrindiau. Felly, er roedd bai ar llawer o'r cymeriadau, yn fy marn i cyfrifoldeb Lowri oedd tynnu’r llun felly hi oedd ar fai fwyaf."

Adroddiad gan Rebecca Walsh, Bl 12:

"Dydd Iau diwethaf, aethon ni i weld y ddrama ‘SXTO’ yn Ysgol Gyfun Garth Olwg. Roedd y ddrama i ddangos peryglon defnyddio ffonau symudol, a rhybuddio pobl ifanc bod ffonau symudol yn gallu achosi problemau. Yn fy marn i, mwynheuais i’r ddrama achos roedd e’n ddiddorol iawn.

Y prif cymeriadau oedd Lowri, Meic, Jen a Gav. Roedd y stori yn dilyn bywyd Lowri. Roedd hi wedi bod yn secstio Meic, ond gwerthodd e ei ffôn i Gav, felly yn fuan wedyn, gwelodd pawb y lluniau. Ar ddiwedd y ddrama, roedd Lowri ar do’r ysgol. Roedd hi eisiau neidio, a ceisiodd Meic, Jen a Gav ei stopio hi."



No comments:

Post a Comment

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...