03/03/2014

Dathliadau Dydd Gwyl Dewi

Ar ddydd Gwener 21 Chwefror cynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol.

Uchafbwynt y dydd oedd cystadleuaeth côr y llysoedd - roedd llys Llywelyn, Glyndŵr, Hywel Dda a Gruffydd yn brwydro am y Cwpan Canu. Y darn gosod oedd Calon Lân a codwyd y to!

Enillwyr corau Blwyddyn 8 oedd Llys Llywelyn (8.3 ac 8.4).

Roedd hi'n amhosibl dewis enillydd ar gyfer corau Blwyddyn 7 felly rhanwyd y gwpan rhwng Llys Hywel Dda (7.3 ac 7.4) a Gruffydd (7.7 ac 7.8).

No comments:

Post a Comment

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...