31/01/2013

Yr Ymwelydd - Ioan Kidd

Ioan Kidd yn darllen o'i gyfrol
Cawson ni'r fraint o ymweliad gan Ioan Kidd, awdur cyfrol o straeon byrion o'r enw 'O'r Cyrion' heddiw. Mwynheuodd tua 20 o ddisgyblion o ysgolion Y Bont Faen, Stanwell a Howell's wrando ar Ioan Kidd yn siarad am gefndir y straeon a'i brofiad personol e a arweiniodd at ysgrifennu'r stori 'Yr Ymwelydd'. Daeth a'r stori yn fyw i'r disgyblion drwy ddisgrifio, gan ddefnyddio tafodiaith de orllewin Cymru, ei brofiad anghyfforddus o fod yng nghlwb y gweithwyr yng Nghwmafan gyda'i dad pan doedd e ddim yn teimlo fel rhan o'r gymuned ers symud i weithio yn y brifddinas.

Fe wnaeth Ioan Kidd ganmol cwestiynau craff a sylwgar y disgyblion yn ogystal a safon uchel eu Cymraeg.

Diolchodd Mrs Thomas, y Pennaeth, iddo am ei amser gan rannu'r ffaith ei bod hi wedi mwynhau darllen y straeon ei hun ac yn gallu uniaethu gyda'r cymeriadau.

The Welsh department had the pleasure of a visit from Ioan Kidd, the author of a book of short stories entitled 'O'r Cyrion' (From the Fringes). Twenty pupils from Cowbridge, Stanwell and Howell's schools enjoyed listening to Ioan Kidd talking about the background to the stories and his personal experience that led to him writing the story 'Yr Ymwelydd' (The Visitor). He brought the story to life for the pupils by describing, in his south west Wales dialect, the uncomfortable experience of being in the workingmen's club in Cwmavon with his father and workers from the steelworks when he felt that he wasn't a part of the community since moving to work in the capital.

Ioan Kidd praised the pupils' astute and perseptive questioning as well as the high standard of their spoken Welsh.

Mrs Thomas, the Headteacher, thanked him for his time and shared the fact that she has enjoyed reading the stories herself and can identify with the characters.





30/01/2013

Enillwyr dosbarth 'Spelling Bee' / Spelling Bee Form Winners

Bu disgyblion o flwyddyn 7 yn cymryd rhan mewn cystadlaethau dosbarth o Spelling Bee. Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion a ennillodd, wedi eu rhestri isod. Byddan nhw'n cymryd rhan yn nghystadleuaeth yr ysgol ar Ddydd Mercher y 6ed o Chwefror a bydd y pedwar disgybl gorau yn symud ymlaen i'r rownd rhanbarthol a fydd yn cael ei gynnal yn hwyrach yn Nhymor y Gwanwyn.

Am flas o'r gystadleuaeth gwyliwch Spelling Bee Final 2012 - fidio.

Year 7 pupils have been taking part in form competitions of Spelling Bee. Congratulations to the pupils who won, listed below. They will be taking part in the school competition on Wednesday the 6th of February and the four best pupils will go through to the regional round which will be held later in the Spring Term.

For a taste of the competition take a look at Spelling Bee Final 2012 - video.

To practice at home, pupils can use this random word picker - Spelling Bee random word picker. Pob lwc!

7.2 winners and runners-up
7.2
1. Sarah Jones
2. Tomos Petty
3. Megan Hodgson
4. Dylan Hughes

Runners-up
Georgia Armitage
Kate Antoni






 

7.8 winners
7.8
1. Zachary Messner
2. Lewis Burrows
3. Caitlin Thomas
4. Cariad Nealon
5. Lowri Williams
6. Ffion Williams






7.5 winners
 
7.5
1. Manou Davies
2. Will Jones
3. Olivia Mitchell
4. Sophie Rees
5. Molly Ward Tossell
6. Holly Rogers

Runners-up
Elin Swallow
Rowan Allin
Rachel Anstey
7.4 winners


 
7.4
Ennillwyr / Winners
1. Jordan Meek
2. Harrison Boyce
3. Freya Yates
4. James Shah
 
 

29/01/2013

Noson Opsiynau Lefel A/A Level Options Evening

Dewch i astudio Lefel A Cymraeg  yn y Bontfaen!
Come and study A Level Welsh in Cowbridge!

Year 11 Options Evening is on Tuesday 29th January. Come and speak to the Department about studying Welsh in Key Stage 5!
 

 
 
 
 
 
 
 

27/01/2013

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth / Photography Competition


Spelling Bee - rownd 2

Mae disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Y Bont Faen yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth cenedlaethol 'Spelling Bee'. Gall rieni helpu disgyblion i ddysgu sillafu'r 50 gair nesaf.

Cliciwch ar y tab Dolenni / Links uchod i glywed yr wyddor Gymraeg.

Year 7 pupils at Cowbridge Comprehensive School are taking part in the national 'Spelling Bee' competition. Parents can help pupils learn to spell the next 50 words.

Click on the tab Dolenni / Links above to hear the Welsh alphabet.





23/01/2013

Spelling Bee - rownd 1

Mae disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Y Bont Faen yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth cenedlaethol 'Spelling Bee'. Gall rieni helpu disgyblion i ddysgu sillafu'r 50 gair cyntaf.

Bydd y 50 gair nesaf yn cael eu cyhoeddi wythnos nesaf.

Year 7 pupils at Cowbridge Comprehensive School are taking part in the national 'Spelling Bee' competition. Parents can help pupils learn to spell the first 50 words.

The next 50 words will be published next week.





Ioan Kidd yn ymweld

Ioan Kidd
Bydd yr awdur Ioan Kidd yn ymweld â'r Adran Gymraeg i drafod ei gyfres o straeon byrion 'O'r Cyrion' gydag ein disgyblion Lefel A.

Bydd disgyblion o Ysgol Howell's ac Ysgol Stanwell hefyd yn ymuno â ni ar Ddydd Iau 31 Ionawr er mwyn cael y cyfle i holi Ioan Kidd am ei gefndir, ei waith a'i ysbrydoliaeth. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei gwmni.

The author Ioan Kidd will be visiting the Welsh Department to discuss his series of short stories 'O'r Cyrion', which is on the A Level syllabus, with our pupils.

Pupils from Howell's School and Stanwell School will also be joining us on Thursday 31st January in order to question Ioan Kidd about his background, his work and his inspiration. We very much look forward to his company.

Mwy am Ioan Kidd


Enw: Ioan Kidd

Beth yw eich gwaith?
Newyddiadurwr

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Mae'r rhestr yn hir iawn!

O ble'r ydych chi'n dod?
Cwmafan, Gorllewin Morgannwg.


Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
O bryd i'w gilydd.

Beth wnaeth ichi sgrifennu 'O'r Cyrion' - dywedwch ychydig amdano?
Fy niddordeb mewn pobl, ac yn enwedig y bobl hynny sy'n mynychu'r cyrion oedd yr ysgogiad pennaf. Mae pobl o'r fath yn aml yn fwy diddorol na'r rheini sy'n byw ynghanol cymdeithas ac maen nhw'n fwy breintiedig o'r herwydd.

Cyfres o luniau a dynnwyd o'r ochrau sydd yma. O'u rhoi nhw ynghyd mewn cyfrol dwi'n gobeithio y byddan nhw'n cyfrannu at y darlun neu'r albwm cenedlaethol, beth bynnag yw hwnnw, ac yn dweud rhywbeth bach amdano ni.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Cawod o Haul (1977);
Craig y Lladron (1994).

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Trysor y Môr-ladron gan T Llew Jones.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Bydda i'n edrych ar y clawr yn aml.

Pwy yw eich hoff awdur?
Does gen i ddim hoff awdur fel y cyfryw. Wedi dweud hynny, dwi'n tueddu i ffafrio gweithiau cyfoes.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Se questo è un uomo gan Primo Levi (ond bu'n rhaid imi ddarllen y cyfieithiad Saesneg - If this is a Man.)

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwenallt.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Y deilen honn, neus kenniret gwynt.
Gwae hi o'e thynghet!
Hi hen; eleni y ganet.
(Cân yr Henwr, Canu Llywarch Hen).

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Wylit, wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilmiau: Cabaret, Diarios de Motocicleta, American Beauty.
Teledu: cyfres This Life.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Does neb yn dod i'r meddwl.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Dim ond gweld ein gilydd y'n ni.

Pa un yw eich hoff air?
Sbrachus - mae'n gwneud imi hiraethu a gwenu yr un pryd.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Arlunio.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Siaradus,
Cydwybodol,
Optimistaidd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dwi'n gallu bod yn rhy gydwybodol ar brydiau.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham?
Owain Glyn Dwr - oherwydd ei weledigaeth.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Gwrthryfel Glyn Dwr.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
George Thomas (Is-iarll Tonypandy) - "Rhag dy gywilydd!"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Crwydryn ydw i wrth reddf, felly fyddai un daith ddim yn ddigon.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cawl Cymreig ar ei newydd wedd - heb y cig!

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Teithio.

Pa un yw eich hoff liw?
Pam dewis un?

Pa liw yw eich byd?
Amryliw.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Un fyddai'n rhoi statws llawn i'r Gymraeg ym mhob maes; un fyddai'n gwneud y Gymraeg yn gwbl normal o fewn ffiniau Cymru er mwyn i'w siaradwyr allu rhoi'r gorau i deimlo'n grac neu'n siomedig.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes. Newydd ei ddechrau.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
"Cerddodd llysgennad newydd Cymru ar hyd y rhes yn neuadd anferth y Cenhedloedd Unedig cyn eistedd yn ei sedd rhwng Cuba a Cyprus."

Related Posts Plugin for WordPress, Blogger...